Meet the Tutors / Cwrdd a'r Tiwtoriaid

Meet the Tutors / Cwrdd a'r Tiwtoriaid Harriet Earis

Harriet Earis

www.harrietearis.com

Harriet graduated from Trinity College, Cambridge in 2001 and is now based in mid Wales. She specialises in the smaller Celtic harp but also has Grade 8 with Distinction in classical pedal harp (1997) and has more recently been playing jazz with a trio of harp, bass and drums.

In 2005 she was one of a few young musicians in Wales to be awarded a place on Yehudi Menuhin’s “Live Music Now!” scheme, which led to over 150 solo concerts in community venues such as hospitals, old people’s homes and special schools as well as solo recitals in most of the main Welsh festivals, such as the North Wales Music Festival in St Asaph, Bryn Terfel’s “Y Faenol” Festival and the National Eisteddfod. Since leaving the scheme as a performer in 2009 she has become one of a handful of musicians in the UK trained to help audition and mentor new professional musicians on the Live Music Now scheme. Her work on the scheme led to an invitation to Buckingham Palace to meet the Queen at a reception honouring “Young People in the Performing Arts” in May 2011.

She has two solo CDs - 'Jumping Ahead' (2003) and ‘From the Crooked Tree’ (2007) and is currently recording for a duo album with Irish uilleann piper and flute-player Colman Connolly. The Musicians’ Union magazine described her second album as “superlative” and called her “a star in the British folk firmament”. Harriet has won various accolades in the traditional music scene. She was “Harper of All Britain” twice in 2000 and 2002 and won a coveted Open Stage Award at the UK’s biggest traditional music festival “Celtic Connections” in Glasgow in 2007 – chosen from over 82 acts competing for the title. She was also picked as the only instrumental soloist to take part in the 6000 strong “Young Voices” Tour 2007 which led to solo performances to over 25,000 people in the O2 arena in London and in the Royal Albert Hall. With her trio she has represented Wales in the Pan Celtic Festival in Lorient, France. She is a busy and successful soloist with regular tours of Europe and America (to over 25 different states).

Graddiodd Harriet o Goleg y Drindod, Caergrawnt yn 2001 ac mae hi bellach yn byw yng nghanolbarth Cymru. Y delyn fach Geltaidd yw ei harbenigedd , ond llwyddodd hefyd i ennill gradd 8 gydag anrhydedd ar y delyn bedal clasurol yn 1997, ac yn ddiweddar mae hi wedi bod yn un o driawd jazz sy’n cynnwys y delyn, y bas a’r drymiau.

Yn 2005 hi oedd un o’r ychydig gerddorion i ennill lle ar fenter Yehudi Menuhin “Live Music Now!” Arweiniodd hyn yn ei dro at dros 150 o gyngherddau unawdol mewn lleoliadau yn y gymuned, megis ysbytai, cartrefi hen bobl ac ysgolion arbennig yn ogystal â pherfformiadau unigol ym mhrif wyliau Cymru fel Gŵyl Gerdd Rhyngwladol Gogledd Cymru yn Llanelwy, Gŵyl Y Faenol Bryn Terfel a’r Eisteddfod Genedlaethol. Ers gadael y fenter yn berfformiwr yn 2009, mae hi wedi datblygu i fod yn un o’r ychydig gerddorion yn y DU sydd wedi ei hyfforddi i gyfweld ac i fentora cerddorion proffesiynol newydd yn y fenter Live Music Now. Mae ei gwaith yn y fenter wedi arwain at wahoddiad i Balas Buckingham i gwrdd â’r Frenhines mewn derbyniad i anrhydeddu “Pobl Ifainc yn y Celfyddydau Perfformio” ym Mai 2011.

Mae hi wedi rhyddhau dau CD fel unawdydd- “Jumping Ahead”( 2003) a “From the Crooked Tree” (2007) ac ar hyn o bryd mae hi wrthi’n recordio albwm ddeuawd gyda’r ffliwtydd a’r pibydd Uilleann Gwyddelig Colman Connolly. Disgrifiwyd ei hail albwm gan y cylchgrawn The Musicians’ Union yn un “rhagorol” ac fe’i galwyd yn “seren yn y byd gwerin Prydeinig”. Mae Harriet wedi derbyn sawl anrhydedd yn y byd cerddorol traddodiadol. Enillodd y wobr “Harper of All Britain” ddwywaith yn 2000 ac yn 2002 ac enillodd hefyd wobr llwyfan agored yng ngŵyl cerddoriaeth draddodiadol fwyaf Prydain, sef gŵyl “Celtic Connections” yn Glasgow yn 2007. Hi ddaeth hi’r brig allan o 82 o berfformwyr oedd yn cystadlu am y teitl. Yn ogystal cafodd ei dewis fel yr unig unawdydd offerynnol i gymryd rhan ar daith “Young Voices” yn 2007 oedd yn cynnwys 6000 o leisiau. Arweiniodd hynny at unawdau o flaen 25,000 o bobl yn arena yr O2 yn Llundain ac yn Neuadd Frenhinol Albert yn Llundain. Yn un o’r triawd mae hi wedi cynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Lorient, Ffrainc. Mae hi’n unawdydd prysur a llwyddiannus sy’n teithio’n gyson o gwmpas Ewrop ac America ( 25 o wahanol daleithiau).


November 16th-17th / Tachwedd 16eg -17eg